SL(6)329 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023

Cefndir a diben

Mae adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yn caniatáu i awdurdodau lleol gymhwyso swm uwch o dreth gyngor (premiwm treth gyngor) i anheddau a feddiannir yn gyfnodol. Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015") yn rhagnodi dosbarthiadau ar annedd sydd wedi'u hesemptio rhag premiwm treth gyngor.

Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2023 ("y Rheoliadau") yn diwygio rheoliad 9 (Dosbarth 6) o Reoliadau 2015 i gynnwys eiddo sy'n ddarostyngedig i amod cynllunio:

·         Atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn;

·         Nodi mai dim ond fel llety gwyliau y caniateir defnyddio annedd; neu

·         Gyfyngu ar feddiannu’r eiddo hwnnw fel unig neu brif breswylfa person.

Effaith y Rheoliadau yw na chaniateir codi premiwm treth gyngor ar eiddo o'r fath.

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae paragraffau 4.5 i 4.9 o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi rhesymeg Llywodraeth Cymru dros wneud eiddo sy'n ddarostyngedig i'r amodau cynllunio penodedig yn esempt rhag premiwm treth gyngor:

4.5 Mae Gorchymyn 2022 yn diwygio'r nifer lleiaf o ddyddiau y mae'n ofynnol i eiddo hunanddarpar fod ar gael i'w osod mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, o 140 i 252, a’r dyddiau y mae’n rhaid iddo gael ei osod mewn gwirionedd, o 70 i 182, er mwyn i’r eiddo gael ei ddosbarthu’n eiddo annomestig o 1 Ebrill 2023.

4.6 Bydd eiddo hunanddarpar nad yw’n bodloni’r meini prawf newydd yn cael eu dosbarthu'n eiddo domestig a bydd yn atebol am y dreth gyngor.  Bydd hyn yn cynnwys premiwm os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu cymhwyso swm o'r fath.

4.7 Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhai eiddo hunanddarpar ac eiddo a feddiannir yn gyfnodol yn destun cyfyngiadau cynllunio sy'n atal eu defnyddio fel unig neu brif breswylfa neu sy’n pennu mai fel llety gwyliau yn unig y gellir eu defnyddio. Ni ellir gwerthu eiddo o’r fath na’u gosod am gyfnod hir fel cartref i aelod o'r gymuned leol – heb newid amodau cynllunio – a gellid dadlau nad ydynt yn cyfyngu ar y stoc tai lleol drwy gael eu gosod i bobl sy’n dod ar eu gwyliau. Mae'n bosibl fod gan berchnogion eiddo o'r fath lai o opsiynau i ymateb i'r meini prawf gosod newydd.

4.8 Mae Rheoliadau 2023 yn ychwanegu eiddo, sy'n ddarostyngedig i amod cynllunio sy'n pennu mai dim ond fel llety gwyliau y gellir defnyddio annedd neu sy’n atal meddiannaeth o’r eiddo fel unig neu brif breswylfa person, i ddosbarth 6 a nodir yn rheoliad 9 o Reoliadau 2015. Daw eiddo o’r fath yn ddosbarth ar annedd na chaniateir i awdurdod bilio wneud penderfyniad i gymhwyso swm uwch o dreth gyngor mewn perthynas ag ef. Mae'r dosbarth hwn yn ymwneud ag eiddo a feddiannir yn gyfnodol. Byddai eiddo o'r fath yn dod yn atebol am y dreth gyngor ar y gyfradd safonol os na fyddai’n bodloni'r meini prawf gosod ar gyfer eiddo annomestig, ond ni fyddai modd codi premiwm treth gyngor arno.

4.9 Bydd yr eithriadau hyn yn berthnasol o 1 Ebrill 2023, ar y cyd â'r trothwyon uwch ar gyfer dosbarthu eiddo sy'n darparu llety hunddarpar yn eiddo annomestig.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Mawrth 2023